Micah 2

Bydd Duw yn cosbi'r rhai sy'n sathru'r tlawd

1Gwae nhw, y rhai sy'n dyfeisio drygioni
a gorweddian ar eu gwlâu yn cynllwynio. a
Wedyn codi gyda'r wawr i wneud y drwg –
maen nhw'n gwneud beth maen nhw eisiau.
2Maen nhw'n cymryd y tir maen nhw'i eisiau,
ac yn dwyn eu tai oddi ar bobl.
Maen nhw'n cipio cartrefi trwy dwyll a thrais
ac yn dwyn etifeddiaeth pobl eraill.

3Felly, dyma mae'r Arglwydd yn ei ddweud:

“Dw i'n cynllunio i ddod â dinistr ar y criw pobl yma.
Fydd dim modd i chi ddianc!
Dim mwy o swancio i chi! –
mae pethau'n mynd i fod yn ddrwg!
4Bryd hynny, bydd pobl yn gwneud hwyl am eich pen chi
drwy ganu galarnad i chi'n sbeitlyd –
‘Mae ar ben arnon ni!
Mae ein tir yn cael ei werthu!
Mae Duw wedi cymryd y cwbl,
a rhoi ein tir i fradwyr anffyddlon!’”
5Felly fydd neb yn mesur y tir eto
i chi gael siâr ohono
gyda phobl yr Arglwydd.
6“Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.
“Ddylai neb siarad fel yna!
Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
7Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –
“Dydy'r Arglwydd ddim yn colli ei dymer.
Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”
“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwydd
i'r rhai sy'n byw yn iawn.
8Ond yn ddiweddar mae fy mhobl
wedi codi yn fy erbyn fel gelyn.
Dych chi'n dwyn y fantell a'r crys
oddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibio
fel milwyr yn dod adre o ryfel.
9Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd,
a dwyn eu heiddo
2:9 eu heiddo Hebraeg, “fy ngogoniant”. Mae'n cyfeirio at yr etifeddiaeth roedd yr Arglwydd wedi ei roi i'w bobl.
oddi ar eu plant am byth.
10Felly symudwch! I ffwrdd â chi!
Does dim lle i chi orffwys yma!
Dych chi wedi llygru'r lle,
ac wedi ei ddifetha'n llwyr!
11Petai rhywun yn dod heibio
yn malu awyr a thwyllo,
‘Dw i'n addo y cewch chi joio
digonedd o win a chwrw!’ –
byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!

Nodyn o obaith

12Bydda i'n eich casglu chi i gyd, bobl Jacob.
Bydda i'n galw pawb sydd ar ôl yn Israel
2:12 Israel Yma mae ‛Jacob‛ ac ‛Israel‛ yn cyfeirio at Jwda, teyrnas y de.

at ei gilydd fel defaid mewn corlan.
Byddwch fel praidd yng nghanol eu porfa
yn brefu, yn dyrfa enfawr o bobl.
13Bydd yr un sy'n torri trwodd
yn eu harwain nhw allan i ryddid.
Byddan nhw'n mynd allan drwy'r giatiau
a gadael gyda'u brenin ar y blaen.
Yr Arglwydd ei hun fydd yn eu harwain!”
Copyright information for CYM